Jump to content

Cyfres Gweminarau Rheoli Asedau: Adnabod a thrin lleithder, llwydni a chyddwysiad

Medi 14, 2023 @ 1:00yh

Bydd y seminar hon yn ymchwilio achosion cyffredin problemau gwlybaniaeth mewn adeiladau, y dulliau dadansoddi ac ymchwilio ac opsiynau ar gyfer unioni. Mae’r sesiwn, yn addas ar gyfer staff technegol a hefyd heb fod yn dechnegol, a chaiff ei chyflwyno gan yr Athro John Edwards, Syrfëwr Adeiladu Siartredig, Amgylcheddwr Siartredig a Phatholegydd Adeiladu. Mae John yn Gyfarwyddwr gyda Edward Hart Consultants ac mae’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau hyfforddi ac ymgynghori ar adeiladu.