Cam-drin domestig: Gweld yr arwyddion
Fyddech chi’n teimlo’n gysurus am ofyn i’ch cydweithiwr os ydynt yn profi camdriniaeth? Mae Cam-drin Domestig yn effeithio ar 1 mewn 3 o fenywod a 1 mewn 7 o ddynion yn ystod eu hoes, ond mae’n dal yn rhywbeth a all deimlo’n anodd iawn i siarad amdano.
Yn y weminar yma bydd Llamau yn rhoi amlinelliad byr o’r effaith a gaiff cam-drin domestig yn y gweithle a siarad drwy’r arwyddion rhybudd a’r ffactorau risg. Byddant hefyd yn cyflwyno eu hyfforddiant Cam-drin Domestig, a gynlluniwyd i helpu cydweithwyr mewn cymdeithasau tai i ddysgu’r ffordd orau i gefnogi staff a allai fod yn profi cam-driniaeth.
Mae hyfforddwyr Llamau wedi cymhwyso fel Cynghorwyr Trais Domestig Annibynnol gyda llawer iawn o brofiad o gefnogi goroeswyr cam-drin domestig a gweithio gydag asiantaethau eraill i gynyddu ymwybyddiaeth.