Jump to content

Atal Gwyngalchu Arian: Yr hyn mae angen i chi wybod

Mehefin 13, 2024 @ 2:30yh
Webinar 1hr Zoom webinar

Mae trefniadau atal gwyngalchu arian y Deyrnas Unedig yn cynnwys deddfwriaeth i rwystro gwyngalchu arian troseddol a hefyd gyllido terfysgol.

Yn y sesiwn yma, bydd Trowers and Hamlins yn rhoi trosolwg o’r ddeddfwriaeth gyfredol a’r gofynion y dylai cymdeithasau tai eu hystyried fel rhan o’u gweithgareddau.

Bydd y weminar yn rhoi sylw i faterion allweddol o fewn y canllawiau ar atal gwyngalchu arian (2018) a throsolwg o’r newidiadau a gyflwynwyd fel rhan o Ddeddf Cyllid 2022, yn cynnwys ardoll atal gwyngalchu arian.

Bydd y sesiwn yma o ddiddordeb neilltuol i’r Gymuned Aelodau Rheoleiddio a Lllwodraethiant a’r Gymuned Aelodau Cyllid.


Siaradwyr

  • Mae Rebecca Lawrence, Uwch Gydymaith gyda Trowers and Hamlins, yn arbenigo mewn cyfraith fasnachol a chyhoeddus, ac yn rhoi cyngor yn rheolaidd i sefydliadau yn cynnwys darparwyr cofrestredig ar eu cyfrifoldebau dan y trefniadau atal gwyngalchu arian.
  • Mae Tom Wainwright, Cydymaith Rheoli Trowers and Hamlins, yn arbenigwr mewn cyfraith cymdeithasau cofrestredig, a hefyd yn cynghori ar faterion credyd defnyddwyr, gan helpu cleientiaid i archwilio eu gweithgareddau i benderfynu pa rai allai fod yn destun rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) ac ar faterion cydymffurfiaeth barhaus gydag awdurdodiad yr FCA