Jump to content

Cyfres gweminarau ar gyflwr gwael: Darparu gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw gyda ffocws ar y cwsmer

Mehefin 29, 2023 @ 1:00yh
Webinar 1hr Online

Yn y weminar yma bydd Kris Ablett, Rheolwr CX Sero, yn defnyddio ei brofiad o weithio mewn manwerthu a’r sector tai i ymchwilio’r ystyriaethau allweddol a’r camau ymarferol y gallwch eu dilyn i gyflwyno gwasanaeth rheoli asedau effeithiol gyda ffocws ar y cwsmer.

Bydd y sesiwn yn cynnwys:

    • Egwyddorion ac ystyriaethau allweddol
    • Diwylliant gwasanaeth ac ymgysylltu staff
    • Ymateb i anghenion a bodlonrwydd tenantiaid i wella profiad y cwsmer
    • Uwchsgilio’r gweithlu i ymateb i heriau cyfredol a’r dyfodol.

Bydd y weminar o ddiddordeb neilltuol i Gyfarwyddwyr Tai, cydweithwyr mewn Rheoli Asedau ac arweinwyr Gwasanaethau Cwsmeriaid.

Mae’r sesiwn yma yn gyntaf mewn cyfres gweminarau a gynlluniwyd i gefnogi cymdeithasau tai gydag adolygu eu prosesau a gwasanaethau yng nghyd-destun y sylw i ymateb y sector i broblemau yn ymwneud â lleithder, llwydni a chyflwr gwael.

Am y siaradwr

Rôl Kris yn Sero yw gofalu am y cwsmer. Roedd gyrfa 17 mlynedd mewn manwerthu gydag enw da am wella gwasanaeth drwy ymgysylltu pobl a’u grymuso i wneud y peth cywir yn golygu fod Kris yn gweithio i wella gwasanaeth cwsmeriaid ar draws de orllewin Lloegr, Swydd Hertford a gogledd Llundain. Daeth gartref i Gymru pan gafodd blant, a phenderfynu gadael manwerthu i ddilyn gyrfa fel gweithiwr proffesiynol profiad cwsmeriaid, gan weithio yn y sector tai cymdeithasol cyn ymuno â Sero.