Gwerthusiad Risg Tân Waliau Allanol mewn Blociau o Fflatiau
Yr hyfforddiant yn derbyn cymhorthdal ar gyfer aelodau’r Cynllun Awdurdod Tân Sylfaenol (PFAS). Gofynnir i chi gysylltu â ni os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu ond heb fod yn aelod o PFAS.
Oherwydd cyfyngiadau’r safle, mae terfyn dechreuol o 2 cynrychiolydd fesul sefydliad fel y gall holl aelodau PFAS fynychu.
Am y hyfforddiant
Mae cwmpas asesiadau risg tân wedi newid gyda Deddf Diogelwch Tân 2021. Nod y gweithdy hwn yn gyntaf yw esbonio methodoleg PAS 9980:2022 “Gwerthusiad risg tân adeiladwaith waliau allanol a chladin ar flociau presennol o fflatiau – Cod Ymarfer” ac archwilio sut mae hyn yn effeithio ar asesiadau risg tân.
Yn ail byddwn yn edrych sut mae peirianwyr tân a gweithwyr proffesiynol cymwys eraill yn cynllunio a chynnal archwiliadau ymwthgar o waliau allanol a sut y caiff diogelwch tân ei asesu a’i adrodd. Bydd y diwrnod yn cynnwys defnydd helaeth o ddeunydd dangosol ac astudiaethau achos.
Learning Objectives
Bydd y gweithdy undydd hwn yn rhoi:
1. Esboniad o’r gwahanol fathau o waliau allanol a deunyddiau a ddefnyddir mewn adeiladu
2. Arddangosiad o egwyddorion a chwmpas y cod ymarfer newydd ar gyfer gwerthuso risg tân waliau allanol, ynghyd â newidiadau rheoleiddiol newydd
3. Amlinelliad o’r broses o gynllunio, cynnal ac adrodd ar arolygon ac archwiliadau safle
4. Canllawiau ar asesu addasrwydd a pherfformiad tân mathau presennol o adeiladwaith waliau allanol
Am yr hyfforddydd
Mae gan Malcolm Thomas BSc (Anrh) DipTP FRICS MIFSM 40 mlynedd o brofiad mewn adeiladu, rheoli eiddo a stad, ac fel syrfewr proffesiynol. Mae’n awdur ac yn cyflwyno hyfforddiant yn gyson yn y Deyrnas Unedig, Ewrop, Malaysia, De Ddwyrain Asia, Awstralia a Seland Newydd.