Jump to content

Cydweithio i atal digartrefedd ymysg ceiswyr noddfa yng Nghymru

Mai 8, 2024 @ 11:00yb
Sesiynau Sbotolau 1hr Online (Zoom)
Pris Aelod

Rhydd

Un o flaenoriaethau allweddol Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Llywodraeth Cymru (2019), rhan o’i ymrwymiad i wneud Cymru yn Genedl Noddfa gyntaf y byd, yw sicrhau y caiff ffoaduriaid eu cefnogi i bontio o lety i geiswyr lloches i lety cynaliadwy.

Gan y cafodd yr ardaloedd ailsefydlu gwreiddiol (Caerdydd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam) eu hymestyn i gynnwys pob awdurdod lleol, mae’r galw am wasanaethau mwy addas sy’n diwallu anghenion penodol y grŵp cleientiaid hefyd wedi cynyddu.

Mae Housing Justice Cymru, Tai Pawb a Chyngor Ffoaduriaid Cymru yn cydweithio i fynd i’r afael â’r angen cynyddol, gan gefnogi cymdeithasau tai, awdurdodau lleol a chyrff trydydd sector i atal pobl sy’n ceisio noddfa yng Nghymru rhag dod yn ddigartref a chyfrannu at gyflawni nodau Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru.

Yn y sesiwn sbotolau yma bydd Joy Kent, ymgynghorydd sydd wedi gweithio ym meysydd tai, digartrefedd a chydraddoldeb am dros 20 mlynedd, yn amlinellu’r mater, gan fanylu rhai o’r ymatebion y mae cymdeithasau tai yn eu datblygu yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig ac yn amlinellu’r math o gefnogaeth y gall Housing Justice Cymru, Tai pawb a Chyngor Ffoaduriaid Cymru ei gynnig i gymdeithasau tai sy’n ystyried sut y gallent gyfrannu at yr agenda.