Beth sy’n digwydd pan ddechreuwn drwy ganfod beth sy’n gryf? Nid beth sy’n wan.
Rhydd
Dechreuodd y prosiect gyda syniad syml:
Dewis lle a dechrau sgwrs.
Yn hytrach na dechrau gyda model gwasanaeth sefydlog neu ymyriad wedi’i gyllido, dechreuodd partneriaid drwy wrando ar breswylwyr yn Nhrelewis, Penrhys a Melin Ifan Ddu. Dywedodd pob cymuned stori wahanol, ond daeth themâu cyffredin i’r amlwg: balchder mewn lle, rhwydweithiau teulu a chymdogion cryf, colli gofodau cymunedol, llai o gyfleoedd i gysylltu a dymuniad am fwy o weithgaredd lleol wedi’i lunio gan y preswylwyr eu hunain.
Yr hyn a gaiff aelodau CHC
Bydd weminar a’r gweithdy yn ymchwilio:
- sut y gall ymgysylltu â thenantiaid symud tu hwnt i ymgynghori i feithrin perthynas
- pam fod asedau cymunedol yn bwysig ar gyfer llesiant
- sut mae gwrando’n wahanol yn newid yr hyn a wnaiff sefydliadau
- sut y gall cymdeithasau tai weithredu fel partneriaid iechyd y boblogaeth
- beth mae’n ei gymryd i gefnogi gweithredu dan arweiniad preswylwyr
- pam fod dulliau gweithio’n teithio’n well na modelau sefydlog