Jump to content

Tŷ Pride: Ehangu’r model

Awst 26, 2026 @ 2:00yh
Pris Aelod

Rhydd

Ymunwch yn y sesiwn bwrdd crwn hwn i ymchwilio ymrwymiad Llamau i ehangu Tŷ Pride, model llety â chymorth wedi’i brofi sy’n mynd i’r afael â risg anghymesur digartrefedd sy’n wynebu pobl ifanc LHDTC+.

 

Mae Tŷ Pride yn darparu llety diogel a sefydlog ynghyd â chymorth ystyriol o drawma a chadarnhaol ar LHDTC+, gyda chanlyniadau cryf lle mae pob person ifanc yn pontio’n gadarnhaol a heb ddychwelyd i wasanaethau digartrefedd.

 

Pam mynychu?

 

Bydd y digwyddiad hwn yn eich galluogi i:

  • Darganfod y Model a’r Effaith: Cael trosolwg manwl o fodel Tŷ Pride a gweld y dystiolaeth o’i effaith lwyddiannus.
  • Ymchwilio Cyfleoedd Partneriaeth: Trafod ymgyfraniad posibl drwy ddarpariaeth llety, cydweithio sefydliadol neu ddatblygu gwasanaeth.
  • Llunio’r Dyfodol: Cymryd rhan mewn trafodaeth am ymarferoldeb, rhannu blaenoriaethau a herio ar gyfer cynyddu maint y gwasanaeth hanfodol hwn.
  • Deall y Glo Mân: Clywed yn uniongyrchol gan staff, sefydlwyr a chefnogwyr Tŷ Pride am yr agweddau ymarferol.