Jump to content

Y Ddeddf Caffael, un flwyddyn wedyn: Effaith ar ddiwylliant caffael ar draws tai cymdeithasol Cymru

Chwefror 26, 2026 @ 11:00yb
Pris Aelod

Rhydd

Ers i Ddeddf Caffael 2023 ddod i rym ar 24 Chwefror 2025, gwelodd darparwyr tai Cymru newid sylweddol yn y ffordd y caiff caffael ei gynllunio, ei gyflenwi a’i fonitro.

Cyflwynodd y Ddeddf system newydd ar draws y Deyrnas Unedig gydag arlliw penodol i Gymru, gan integreiddio prosesau drwy Lwyfan Digidol Cymru a GwerthwchIGymru, ac ymwreiddio lefelau llawer uwch o dryloywder a chynllunio ymlaen llaw mewn caffael a gaiff ei reoleiddio.

Er fod heriau yn parhau am gymhlethdod ac agweddau ymarferol gweithredu, caiff y diwygiadau eu hystyried yn eang fel bod yn creu cyfleoedd i gyflenwi canlyniadau caffael mwy ystyrlon a chymdeithasol werthfawr.

Yn y sesiwn yma, bydd Barcud Shared Services a CHIC yn trafod sut mae’r Ddeddf wedi dechrau ail-lunio diwylliant caffael ar draws sector tai cymdeithasol Cymru – gan hybu gwell tryloywder a hyblygrwydd, galluogi mwy o ymgysylltu strategol gyda chyflenwyr a helpu i ymwreiddio blaenoriaethau Cymru tebyg i ddatgarboneiddio a llesiant y gweithlu.

Byddant hefyd yn rhannu’r hyn maent wedi’i ddysgu a’r hyn i gadw golwg amdano er mwyn gwella ymarfer caffael a chynyddu i’r eithaf y buddion posibl ar gyfer cymdeithasau tai Cymru.