Jump to content

Cryfhau Craffter Masnachol: A ddylech sefydlu is-gwmni?

Mehefin 12, 2025 @ 11:00yb
Pris Aelod

Rhydd

Ydych chi’n wneuthurydd penderfyniadau allweddol mewn cymdeithas tai yng Nghymru a hoffai gynyddu eich galluoedd masnachol? Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn gyntaf yn ein cyfres gweminarau “Cryfhau Craffter Masnachol”, a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer timau arweinyddiaeth sy’n llywio tirwedd esblygol tai ac adfywio.

Yn y sesiwn yma byddwn yn edrych yn fanwl at yr ystyriaethau craidd wrth sefydlu is-gwmni.

Mae cymdeithasau tai yn sefydlu is-gwmnïau am amrywiaeth o resymau strategol, ariannol a gweithredol. Gallant helpu’r sefydliad i gyflawni ei weledigaeth craidd yn well, cynyddu ffrydiau incwm, rheoli risg a gweithredu mewn modd masnachol o fewn fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol. Mae cael yr ymagwedd yn gywir i’ch sefydliad a deall yr opsiynau sydd ar gael yn hanfodol i sicrhau’r canlyniad gorau ar gyfer cwsmeriaid.

Dan arweiniad Harriet Morgan a Liz Fletcher, Partneriaid yn Nhîm Tai Cymdeithasol Hugh James sy’n arbenigo yn y byd llywodraethiant a masnachol, byddwn yn rhoi trosolwg o’r hyn y dylech ei ystyried, pwy ddylai gymryd rhan a’r strwythurau sydd ar gael i chi a’ch cyfeirio tuag at y cyngor arbenigol y byddwch ei angen i deilwra’r dull gweithredu ar gyfer eich sefydliad.

Bydd y sesiwn yn rhoi fframwaith gadarn ar gyfer cynnal sgyrsiau hyderus a strategol am ddatblygu is-gwmni.

Pwy ddylai fynychu?

Uwch arweinwyr, aelodau bwrdd, cyfarwyddwyr cyllid a chynllunwyr strategol mewn cymdeithasau tai sy’n ymwneud â neu’n ystyried mentrau is-gwmni masnachol neu elusennol.

Hugh James logo