Jump to content

Sesiwn Sbotolau: Pam fod Llesiant yn Gweithio

Ionawr 16, 2024 @ 11:00yb

Cofnododd arolwg blynyddol ar lesiant a gynhaliwyd gan Champion Health bod 76% o weithwyr proffesiynol yn profi lefelau canolig i uchel o straen – cynnydd canran o 13% o gymharu â data o 2022.

Ni fu erioed yn bwysicach trin llesiant gyda staff sy’n wynebu cwsmeriaid. Pan ydym yn ffocysu ar lesiant ein cyflogeion, rydym yn cefnogi’r holl sefydliad.

Yn y sesiwn yma bydd yr hyfforddydd llesiant Sarah-Alex Carter yn rhannu dulliau ac ymagweddau fydd yn helpu cymdeithasau tai i ofalu am lesiant staff sy’n darparu cymorth i eraill, yn cynnwys staff atgyweirio, swyddogion tai, swyddogion cynhwysiant ariannol a staff tai â chymorth.

O’r sesiwn byddwch yn dod i ddeall yn well sut i weithredu technegau gostwng straen. Bydd Sarah yn rhoi sylw i effaith straen, pam fod ffiniau iach yn bwysig a rôl bwysig cysylltiad a chydymdeimlad wrth gefnogi ein staff a defnyddwyr.