Sesiwn ar Reoliadau Safonau’r Gymraeg ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
Rhydd
Yn y sesiwn yma, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft i’r sector, gan egluro’r egwyddorion cyffredinol a’r prif themâu sy’n sail i’r rheoliadau drafft. Bydd cynrychiolwyr o Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg hefyd yn bresennol i esbonio rôl y Comisiynydd unwaith y bydd y rheoliadau wedi’u pasio, a sut y byddant yn cefnogi cyrff i gydymffurfio â’r safonau.