Sbotolau ar Gymorth Llesiant a gynigir i staff a rheolwyr yn ClwydAlyn
Rhydd
Ymunwch â Mandy Roberts, Rheolwr Llesiant a Sarah Barnett, Arbenigydd Llesiant am sesiwn sbotolau ddiddorol lle byddwn yn rhoi sylw i waith Tîm Llesiant Clwyd Alyn, sydd wedi ennill gwobrau. Fel deiliaid y Safon Aur am Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a Gorau am Lesiant Teuluoedd mewn Gwaith, maent yn ymroddedig i gefnogi staff a rheolwyr ar draws y sefydliad.
Yn y sesiwn yma byddwn yn ymchwilio:
- Cymorth i Staff – Helpu staff i ganfod eu ffordd o gwmpas eu taith llesiant
- Cymorth i Reolwyr – Sicrhau fod gan arweinwyr y dulliau i gefnogi eu timau
- Gwybodaeth ac Adnoddau – Rhannu canllawiau hanfodol am lesiant
- Hyfforddiant Ymwybodol o Drawma – Meithrin dealltwriaeth a chydnerthedd
- Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ar gyfer staff a rheolwyr
Byddwn hefyd yn siarad am rai o’r heriau a’r rhwystrau y gwnaent eu hwynebu a dweud sut y gwnaent eu goresgyn i greu amgylchedd mwy cefnogol, cynhwysol a gwybodus i bawb.