Sesiwn sbotolau: Cefnogi llesiant ariannol staff
Yn y sesiwn yma bydd Lawrence Davies, Rheolwr Partneriaeth Cymru y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn rhoi trosolwg o’u llwyfan MoneyHelper sydd ar gael am ddim i ddefnyddwyr a’r gwahanol ddulliau a chyfrifiadau y gall staff cymdeithasau tai eu defnyddio i hybu eu llesiant ariannol. Bydd Lawrence hefyd yn rhoi gwybodaeth am bensiynau a’r gwasanaethau sydd gan MoneyHelper i helpu staff wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol.