Sesiwn Sbotolau: Materion arian – Cefnogi cydnerthedd ariannol staff a thenantiaid cymdeithasau tai
Mae’r argyfwng costau byw wedi tanlinellu pwysigrwydd cydnerthedd ariannol ar gyfer pobl ledled Cymru. Yn y sesiwn sbotolau yma bydd Lee Phillips, Rheolwr Cymru y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MAPs), a chynrychiolwyr Undebau Credyd o bob rhan o Gymru yn rhoi gwybodaeth ar yr opsiynau sydd ar gael i staff a thenantiaid. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth ar y rhaglen Money Guiders a throsolwg o’r gwasanaethau amrywiol sydd ar gael drwy undebau credyd.
Gall y sesiwn fod o ddiddordeb neilltuol i rai sy’n gweithio ym meysydd adnoddau dynol a chymorth tenantiaid.