Sbotolau: Rheoleiddio Rhwydweithiau Gwres gyda Ofgem
Rhydd
Mae rheoliadau ar rwydweithiau gwres yn dod i rym i ddiogelu defnyddwyr, rhoi safonau gweithredu clir a chefnogi twf. Ofgem fydd yn rheoleiddio rhwydweithiau gwres ym Mhrydain Fawr ac maent yn gweithio gyda’r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net i ymgynghori ar faterion polisi allweddol yn ymwneud â rheoleiddio. Os yw eich cymdeithas tai yn gweithredu un neu fwy o rwydweithiau gwres ar hyn o bryd, yn berchen eiddo a gyflenwir gan rwydweithiau gwres neu’n bwriadu gweithredu un yn y dyfodol, bydd y weminar yma yn bwysig i chi.
Bydd Ofgem a DESNZ yn rhoi trosolwg o’r rheoliadau sydd ar y gweill a phenawdau’r pecyn cyfredol o ymgynghoriadau [dolenni isod] a sut i ymateb. Bydd hefyd gyfle i ofyn cwestiynau.
Heat networks regulation: authorisation and regulatory oversight - Ofgem - Citizen Space
Mae hefyd nifer o weminarau ychwanegol yn rhoi mwy o fanylion a fydd yn agored i bawb eu mynychu.
Heat networks regulation: consultation webinars | Ofgem