Sbotolau ar y Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol: Cyflymu cyfleoedd tai fforddiadwy a thrawsnewid
Rhydd
Ymunwch â ni am sesiwn sbotolau ar y Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol, cynllun allweddol gan Lywodraeth Cymru sy’n anelu i gynyddu’r cyflenwad o lety ansawdd uchel yn gyflym.
Mae’r Rhaglen yn rhoi cyllid grant hanfodol ar gyfer amrywiaeth o brosiectau arloesol yn cynnwys dod ag adeiladau segur presennol yn ôl i ddefnydd, trosi adeiladau amhreswyl a defnyddio dulliau modern o adeiladu i ddiwallu anghenion tai ledled Cymru.
Yn y sesiwn hon bydd Jonathan Jones, Arweinydd y Rhaglen, a Gareth Woodhead, pennaeth Mwy o Gartrefi yn Llywodraeth Cymru, yn trafod llwyddiant y rhaglen, yn rhannu gwybodaeth allweddol ar y cyflenwi hyd yma, ac amlinellu cynlluniau sydd ar y gweill.
Yn ymuno â ni fydd Mike Reardon, Cyfarwyddwr Loft Pro ac arbenigedd mewn adeiladu preswyl a thrawsnewid. Bydd Mike yn rhoi safbwynt ymarferol ar y cyfleoedd sy’n bodoli o fewn y Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol, gyda ffocws penodol ar sut y defnyddir cyllid i gefnogi trawsnewid ac ymestyn adeiladau presennol i greu cartrefi y mae angen mawr amdanynt.
Daw’r sesiwn i ben gyda sesiwn holi ac ateb gyda’n siaradwyr.