Jump to content

Sbototolau ar Ailgartrefu Cyflym

Medi 5, 2023 @ 1:00yh

Mae Ailgartrefu Cyflym yn ddull gweithredu a gydnabyddir yn rhyngwladol sy’n sicrhau y gall unrhyw un sy’n profi digartrefedd symud i gartref parhaus cyn gynted ag sy’n bosibl, yn hytrach nag aros mewn llety dros dro am gyfnodau hir.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i atal digartrefedd i gynifer o bobl ag sydd modd a sicrhau bod hynny yn brofiad prin a byr ac nad yw’n digwydd eto. Maent eisiau i Ailgartrefu Cyflym ddod y dull gweithredu awtomatig pan fo pobl yn dod yn ddigartref. Mae hyn yn newid diwylliannol na fedrir ei gyflawni heb weithio partneriaeth.

Yn y sesiwn yma bydd Gemma Smith o Lywodraeth Cymru yn ymuno â ni i drafod y Cynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym a ddatblygwyd gan awdurdodau lleol a’r rôl y gall cymdeithasau tai ei chwarae wrth helpu i’w gweithredu.