Jump to content

Lightning Reach: Gwella mynediad i gymorth ariannol ar gyfer tenantiaid a staff

Ebrill 23, 2024 @ 11:00yb
Sesiynau Sbotolau 1hr Online (Zoom)

Mae porth Lightning Reach yn llwyfan cymorth ariannol un-stop sy’n grymuso unigolion i asesu ac ymgysylltu’n rhwydd gydag ystod eang o wasanaethau cymorth sydd wedi eu personoli, yn cynnwys grantiau, budd-daliadau, help gyda biliau a mwy.

Mae PA Housing yn ddarparydd tai cymdeithasol cofrestredig sy’n cynnig mwy na 23,000 o gartrefi yn Lloegr, yn defnyddio Lightning Reach i helpu eu preswylwyr i wneud cais am eu cronfa gymorth a chymorth arall y gallant fod yn gymwys amdano.

O fewn ychydig fisoedd o weithredu, mae’r porth wedi trawsnewid gallu PA Housing i weinyddu cymorth i’w preswylwyr, gan ryddhau dros 50% o amser staff a chynnig mynediad i denantiaid i ystod ehangach o gymorth.

Yn y sesiwn yma byddwch yn clywed gan Dave Farquharson, Arweinydd Partneriaethau Lightning Reach, a Justine Hogg, Rheolwr Tîm Cynnal Tenantiaethau PA Housing, fydd yn trafod sut y gall y porth fod o fudd i’ch cymdeithas tai chi a’ch preswylwyr.