Jump to content

Ssesiwn Sbotolau ar Ddeddf Diwygio Prydlesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024

Chwefror 5, 2025 @ 10:00yb
Pris Aelod

Rhydd

Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn sbotolau gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer trosolwg o Ddeddf Diwygio Prydlesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024, yn cynnwys yr ymgynghoriad ar y cyd cyfredol ar ffioedd yswiriant a ganiateir ar gyfer landlordiaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantau rheoli eiddo.

Bydd y sesiwn yn rhoi manylion pellach ar yr ymgynghoriad, sy’n cynnig

  • atal yr holl gostau yswiriant a eithrir yn gysylltiedig â threfnu a rheoli yswiriant rhag cael eu codi ar ddeiliaid prydlesau drwy dâl gwasanaeth amrywiol, gan eithrio’r hyn a ddiffinnir fel ffi yswiriant a ganiateir.
  • dim ond codi ffi ar wahân am eu gwasanaethau yn uniongyrchol ar ddeiliaid prydlesau y gallai asiantau rheoli eiddo a rhydd-ddeiliaid ei wneud, yn hytrach na’r arfer cyfredol o rannu comisiwn gan froceriaid. Byddai hyn yn gwella tryloywder gan fod taliadau o’r fath ar hyn o bryd yn aml yn rhan gudd o gostau yswiriant ehangach
  • gwahardd taliadau yswiriant rhag cael eu codi ar ddeiliaid prydlesau – ac eithrio’r ffi a ganiateir – wedi ei dargedu at rydd-ddeiliaid ac asiantau rheoli eiddo.

Byddir hefyd yn ymchwilio goblygiadau ehangach y Ddeddf ar gyfer Cymru, yn cynnwys y gofyniad am drylowyder am daliadau gwasanaeth deiliaid prydlesau.