Jump to content

Sesiwn sbotolau: Diwygio dull Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth at reoleiddio y sector cyhoeddus a’r hyn mae’n ei olygu i gymdeithasau tai

Ionawr 20, 2025 @ 2:00yh
Pris Aelod

Rhydd

Ym mis Mehefin 2022 cyhoeddodd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth gyfnod prawf dwy flynedd at weithio’n fwy effeithiol gydag awdurdodau cyhoeddus ar draws y Deyrnas Unedig. Gelwir hyn yn “ddull sector cyhoeddus”, lle defnyddiwyd disgresiwn y Comisiynydd i ostwng effaith dirwyon ar gyrff cyhoeddus a’r gwasanaethau a ddarparant ac anelu i wella safonau diogelu data yn y sector hwn drwy ymgysylltu ac arweiniad rhagweithiol.

Sylweddolir fod sefydliadau yn y Deyrnas Unedig, tebyg i elusennau a mentrau cymdeithasol, nad ydynt yn gyrff cyhoeddus ar gyfer dibenion Deddf Diogelu Data 2018 ond y gallai dirwy effeithio ar eu gwasanaethau yn yr un modd.

Felly gwahoddir pob rhanddeiliaid a all fod â diddordeb yn y dull gweithredu i helpu llywio rhai diweddariadau a gynigir i’r agwedd sector cyhoeddus ar ôl diwedd y cyfnod prawf. Yn neilltuol, ceisir sylwadau ar:

  • Sefydliadau sydd yn nghwmpas y dull sector cyhoeddus
  • Yr amgylchiadau fydd yn arwain at ddirwy dan y dull sector cyhoeddus

Ymunwch â ni am drafodaeth fer gyda thîm Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth Cymru i glywed mwy am yr ymgynghoriad a gwybodaeth ar sut y gallwch gyflwyno eich sylwadau.

Gofynnir i chi nodi y bydd ymgynghoriad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cau ar 31 Ionawr 2025.