Jump to content

Cartrefi Iach, Pobl Iach: Cefnogi preswylwyr ar draws Cymru i wneud cartrefi yn gynhesach

Chwefror 13, 2024 @ 11:00yb

Yn y sesiwn sbotolau yma byddwn yn edrych ar waith Cymru Gynnes i gefnogi preswylwyr ar draws Cymru, yn ogystal â sut y gall cymdeithasau tai ddod yn sefydliadau tenantiaid a rhoi mynediad i’r gwasanaethau hyn i denantiaid a hefyd staff.

Bydd Joanna Seymour, Cyfarwyddwr Partneriaethau a Datblygu Cymru Gynnes, yn trafod sut i gynnig cefnogaeth gydlynus i breswylwyr ym meysydd tlodi tanwydd, datgarboneiddio, lleithder a llwydni a Safon Ansawdd Tai Cymru, a hefyd sut i sicrhau fod y cymorth hwn yn canolbwyntio ar yr unigolyn, yn dangos gwerth ychwanegol ac yn gynaliadwy.