Jump to content

Sbotolau ar ddiogelwch nwy: Rhannu dysgu

Hydref 25, 2023 @ 10:00yb

Ym mis Chwefror 2023 bu ffrwydrad nwy mewn eiddo yr oedd Cymdeithas Tai Merthyr Tudful (MTHA) yn ei reoli, a anafodd ddau berson yn ddifrifol.

Yn y sesiwn yma, bydd MTHA yn rhannu materion diogelwch technegol pwysig a hefyd ffactorau hollbwysig eraill yn ymwneud â rheoli’r digwyddiad, yn cynnwys cymorth i denantiaid, y gymuned a staff. Byddai CHC yn annog yr holl staff sy’n ymwneud â rheoli asedau a materion diogelwch nwy i fynychu, yn ogystal â’r rhai sy’n gyfrifol am weithredu cynlluniau rheoli digwyddiadau.