Jump to content

Sesiwn sbotolau: Diwygiadau i FRS 102 a’r goblygiadau ar gyfer SORP Tai

Mai 20, 2025 @ 12:00yh
Pris Aelod

Rhydd

Ar 27 Mawrth 2024 cyhoeddodd y Cyngor Adrodd Ariannol (FRC) ddiwygiadau i FRS 102 a Safonau Adrodd Ariannol eraill yn dilyn cwblhau ei ail adolygiad cyfnodol o’r Safonau.

Wedi’i anelu at uwch weithwyr proffesiynol cyllid, bydd y sesiwn hon gyda BDO yn ymchwilio’r gwahaniaethau allweddol tebygol rhwng y FRS 102 diwygiedig a’r safon presennol, cyn cyhoeddi’r Drafft Cysylltiol diwygiedig o’r Datganiad o Arfer a Argymhellir (SORP) y disgwyliwn y cynhelir ymgynghoriad arno yn ystod haf 2025.

Bydd y seminar hefyd yn rhoi sylw i’r camau gweithredu y mae angen i gymdeithasau tai cofrestredig fod yn eu cynllunio cyn i’r newidiadau ddod i rym. Mae’n debygol y caiff y Safon diwygiedig ei fabwysiadu’n llawn ar 31 Mawrth 2027.