Jump to content

Sesiwn Sbotolau – Prosiect ForMi

Chwefror 18, 2025 @ 11:00yb
Pris Aelod

Rhydd

Gall y gofynion ar ein staff fod yn sylweddol ar adegau, ac nid yw’r pandemig a phwysau eraill diweddar tu hwnt i’n rheolaeth wedi helpu pethau.

A oes ffyrdd gwahanol y gallwn gefnogi llesiant a datblygiad personol pobl sy’n rhoi cymorth gwirioneddol, ond hefyd yn eu galluogi i gymryd mwy o berchnogaeth o’u ‘taith’ eu hunain?

Mae ForMi yn brosiect a ddatblygwyd yng ngogledd Cymru gan sefydliad Here2there (h2t). Yn 2020 enillodd H2t gystadleuaeth a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru a roddodd gyllid ymchwil a datblygu sylweddol. Fe wnaeth hyn ganiatáu datblygu dull ForMi a theclyn cysylltiedig, ynghyd â chynlluniau peilot mewn 4 awdurdod lleol yng Nghymru a nifer o sefydliadau eraill.

Yn fwy diweddar, bu H2t hefyd yn gweithio gyda Cartrefi Conwy i beilota ForMi gyda rhai o’u staff. Bydd y sesiwn sbotolau yma yn rhannu’r hyn a ddysgwyd o’r cynllun peilot ac yn ein galluogi i drafod y materion a godwyd.