Jump to content

Deall ymddygiad ynni tenantiaid tai cymdeithasol

Hydref 4, 2023 @ 12:00yh

Mae monitro defnydd ynni mewn cartrefi ar draws Cymru yn parhau i fod yn elfen hanfodol wrth benderfynu ar y ffyrdd gorau i gynyddu effeithiolrwydd ynni ar draws stoc landlordiaid cymdeithasol, yn ogystal â chadw costau i lawr ar gyfer tenantiaid.

Yn y sesiwn yma bydd Dr Simon Lannon, Uwch Gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Cymru, yn cyflwyno ei ganfyddiadau o brosiect a gwblhawyd yn ddiweddar yn archwilio ymddygiad ynni tenantiaid cymdeithasol.

Bydd Dr Satish BK, Uwch Ddarlithydd mewn Tectoneg Pensaernïol, wedyn yn amlinellu crynodeb gwaith y prosiect cyfredol :”Fy Nhŷ, Fy Rheolau: Archwilio effaith ymddygiad diwylliannol ar ansawdd aer mewn cartrefi sydd wedi eu huwch-insiwleiddio” sy’n edrych yn benodol ar effaith coginio ar ansawdd aer dan do mewn cartrefi Prydeinig-Asiaidd o gymharu gyda chartrefi gwyn Prydeinig.


Bydd y sesiwn yn cynnwys:

  • Tystiolaeth yn dangos y gwahaniaethau rhwng ymddygiad disgwyliedig a’r hyn sy’n digwydd yng nghartrefi tenantiaid cymdeithasol.
  • Y gydberthynas rhwng gwerthoedd cymdeithasol a diwylliannol ac ymddygiad ynni aelwydydd.
  • Y budd i landlordiaid o greu eu setiau data eu hunain, ynghyd â rhai o’r anfanteision.