Jump to content

Grymuso ffoaduriaid ar eu taith ailsefydlu

Tachwedd 8, 2023 @ 11:00yb

Mae Oasis yn elusen seiliedig yng Nghaerdydd sy’n darparu cymorth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n setlo yn y gymuned. Bydd Deena Abawi, Swyddog Cymorth Tai Oasis, yn sôn am y gwasanaethau a ddarperir gan yr elusen ynghyd â Chyngor Ffoaduriaid Cymru a Chymdeithas Tai Taf fel modelau arfer da wrth drin anghenion a’r heriau unigryw sy’n wynebu ffoaduriaid yng nghyswllt tai a llety. Bydd y sesiwn yn rhoi sylw i:

  • Brosiect ‘Ffynnu Gartref’ Oasis sy’n anelu i rymuso ffoaduriaid drwy gynnig gwasanaethau cefnogi tenantiaeth, gweithdai, eiriolaeth ac integreiddio cymunedol.
  • Y gwasanaethau cymorth arbenigol a gynigir gan Gymdeithas Tai Taf, yn cynnwys llety i bobl ifanc a chymorth i deuluoedd, cymorth fel y bo angen yn y gymuned a chynlluniau adleoli cymunedol arbenigol.
  • Gwaith Cyngor Ffoaduriaid Cymru wrth gefnogi ceiswyr lloches, yn neilltuol y gefnogaeth a roddant i ddynion sengl yn y diwrnod symud ymlaen 28-diwrnod.