Jump to content

Paratoi ar gyfer trafodaethau gyda’r Comisiynydd Iaith a datblygu sylfaen tystiolaeth

Rhagfyr 8, 2025 @ 11:00yb
Pris Aelod

Rhydd

Yn dilyn yr ymgynghoriad diweddar ar Reoliadau drafft Safonay’r Gymraeg (Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig), mae llawer o gymdeithasau tai yn awr yn paratoi ar gyfer cam nesaf y broses gosod safonau. Bydd y sesiwn sbotolau yma yn amlinellu’r hyn i’w ddisgwyl yn y misoedd i ddod ac yn rhoi sylw i ystyriaethau ymarferol allweddol i gefnogi cynllunio effeithlon, yn cynnwys sut i ymgysylltu mewn modd adeiladol gyda Chomisiynydd y Gymraeg.