Jump to content

Llywio Safonau’r Gymraeg: Taith Trafnidiaeth Cymru

Awst 6, 2026 @ 2:00yh
Pris Aelod

Rhydd

Ymunwch â Lowri Joyce, Pennaeth y Gymraeg Trafnidiaeth Cymru, ar gyfer y sesiwn llawn gwybodaeth yma. Bu Lowri yn arwain ar y Gymraeg a diwylliant i Trafnidiaeth Cymru ers 2022, ar ôl gweithio’n flaenorol mewn swyddi cyfathrebu ac ymgysylltu.

Bydd y sesiwn yn amlinellu sut aeth Trafnidiaeth Cymru ati i sefydlu Safonau’r Gymraeg ar draws y corff, gan gryfhau gwasanaethau dwyieithog, gwella profiad cwsmeriaid a sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn ddim llai ffafriol na’r Saesneg. Bydd Lowri yn rhannu’r camau ymarferol a gymerodd Trafnidiaeth Cymru, yr heriau y gwnaethant eu llywio a’r newid diwylliannol sy’n eu helpu i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth gwirioneddol ddwyieithog.