Jump to content

Gwneud synnwyr o bensiynau ar gyfer cymdeithasau tai

Mai 20, 2026 @ 11:00yb
Pris Aelod

Rhydd

Bydd Stuart Price a Sarah Garnish o Quantum Advisory, actiwariaid pensiwn ac ymgynghoriad buddion cyflogeion, yn rhoi popeth rydych angen ei wybod yng nghyswllt pensiynau ar gyfer y sector tai.

Byddant yn trafod yr hyn y gallwch ei ddisgwyl yng nghyswllt gwybodaeth datgelu pensiynau y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) a’r Cynllun Pensiwn Tai Cymdeithasol (SHPS) ar 31 Mawrth y bydd cymdeithasau tai yn ei chael yn y dyfodol agos ac yn eich helpu i ddeall pam fod sefyllfaoedd wedi newid o’r flwyddyn flaenorol a pha gamau gweithredu y gallwch eu cymryd.

Byddant hefyd yn rhoi diweddariad ar y marchnadoedd ariannol cyfredol a sut mae hyn yn effeithio ar y pensiynau a ddarperir i gyflogeion o safbwynt cyflogwr a hefyd o safbwynt y sawl a gyflogir.

Stuart Price

Mae gan Stuart dros 25 mlynedd o brofiad o ddelio gyda threfniadau pensiwn budd diffiniedig a chyfraniad diffiniedig.

Mae Stuart yn arwain cynnig corfforaethol Quantum sy’n darparu ystod o gyngor pensiwn i gymdeithasau tai ar eu trefniadau annibynnol ac aml-gyflogwr tebyg i SHPS a LGPS ac mae wedi cynorthwyo llawer o gyflogwyr yng nghyswllt gweithgaredd corfforaethol tebyg i uniadau a chau a gadael eu trefniadau pensiwn budd diffiniedig.

Mae Stuart yn hollol angerddol am ymwybyddiaeth ariannol cyflogeion ac yn eiriolydd allweddol cadw cyfathrebu gyda chyflogeion yn syml ac yn gryno.

Sarah Garnish

Mae gan Sarah dros 12 mlynedd o brofiad mewn ymgynghoriaeth pensiynau ac mae’n arbenigo mewn darparu cymorth ymgynghoriaeth ac actiwaraidd gyda ffocws ar y cleient i ymddiriedolwyr a chyflogwyr sy’n noddi cynlluniau pensiwn budd diffiniedig a chyfraniad diffiniedig.

Caiff Sarah ei chydnabod am ddarparu cyngor clir y gellir ei roi ar waith ac am helpu sefydliadau i lywio eu ffordd drwy gymhlethdodau rheoli cynlluniau pensiwn a newid rheoleiddiol.

Yn ei swydd yn Quantum, mae Sarah yn aelod allweddol o’r tîm pensiwn corfforaethol ac mae ganddi brofiad helaeth o weithio gyda chyflogwyr sy’n cymryd rhan yn SHPS, LGPS a chynlluniau aml-gyflogwr eraill.