Jump to content

Sut i siarad am gartrefi a mewnfudo

Gorffennaf 29, 2026 @ 2:00yh
Pris Aelod

Rhydd

Yn y weminar hon, byddwch yn clywed strategaethau fframio i helpu cyfathrebwyr tai i siarad am gartrefi a mewnfudo. Gall prosiect Talking about Homes a Frameworks UK  esbonio beth mae hynny yn ei olygu ar gyfer eich cyfathrebiadau am gartrefi.

 

Pam fod hyn yn bwysig?

Cewch glywed am wybodaeth ac argymhellion ymarferol o ymchwil diweddaraf Talking about Homes Frameworks UK, mewn partneriaeth gyda’r JRF, Nationwide Foundation a Shelter. Mae’r ymchwil yn codi cwr y llen ar sut mae pobl yn meddwl am gartrefi a mewnfudo; a hefyd yn rhoi argymhellion am sut i fframio eich straeon a chyfathrebiadau.

 

Ymunwch â Sophie Gordon o FrameWorks UK, mewn partneriaeth gyda’r JRF a’r Nationwide Foundation ar gyfer gweminar fydd yn:

• eich helpu i ddeall a llywio sut mae pobl yn meddwl am gartrefi a mewnfudo
• rhannu sut i fframio cyfathrebiadau mewn ffyrdd sy’n osgoi bai a defnyddio syniadau mwy torfol a systemig
• cynnig canllawiau ac enghreifftiau ymarferol ar gyfer sut i ailgyfeirio’r sgwrs.