Jump to content

Sut mae pobl yn meddwl am gartrefi: arwyddion o newid diweddar mewn meddylfryd diwylliannol

Gorffennaf 15, 2026 @ 11:00yb
Pris Aelod

Rhydd

Yn y weminar hon byddwch yn clywed am rai newidiadau diweddar ym meddylfryd pobl ar dai. Gall prosiect Talking about Homes a FrameWorks UK esbonio beth mae hynny yn ei olygu ar gyfer eich cyfathrebiadau am gartrefi.

 
Pam fod hyn yn bwysig?

Mae angen i ni ddeall y feddylfryd sy’n llunio syniadau pobl – y patrymau dwfn o feddwl sy’n eistedd dan lefel barn neu sgwrs. Mae’r wybodaeth hon yn ein galluogi i ddynodi pa fath o feddylfryd y gallai fod yn ddefnyddiol rhoi’r sylw pennaf iddi, a pha fathau o feddylfryd i’w gosod yn y cefndir, yn defnyddio fframio.

 

Mae meddylfryd yn parhau, ond gall symud – yn aml ar gyfnodau o gythrwfl cymdeithasol neu mewn ymateb i ymdrechion cyson ar gyfer newid cymdeithasol.

 

Ymunwch â Sophie Gordon o FrameWorks UK, mewn partneriaeth gyda’r JRF a’r Nationwide Foundation ar gyfer gweminar fydd yn:

• codi cwr y llen ar sut mae syniadau pobl wedi newid yn y pedair blynedd ddiwethaf

• esbonio beth mae hyn yn ei olygu i gyfathrebwyr
• cynnig canllawiau ac enghreifftiau ymarferol.