Tai a Chyn-filwyr y Lluoedd Arfog
Mae 115,000 o bobl yng Nghymru sydd wedi gwasanaethu’n flaenorol yn y Lluoedd Arfog, Mae llawer ohonynt, ond nid y cyfan, yn cyfeirio atynt eu hunain fel cyn-filwyr. Er fod y garfan yma o boblogaeth Cymru yn gyffredinol debyg iawn i’r boblogaeth ehangach yn nhermau lle maent yn byw, sut maent yn byw a gyda phwy maent yn byw, gwyddom hefyd fod rhai yn profi heriau neilltuol wrth bontio o fywyd gwasanaeth i fywyd sifilian. Gwyddom hefyd fod rhai cyn-filwyr yn cael anawsterau wrth ganfod cartrefi parhaol hirdymor ar ôl gadael gwasanaeth.
Mae’r Cyfamod Lluoedd Arfog yn rhoi diogeliad a sicrwydd i’r gymuned Lluoedd Arfog – na ddylai fod unrhyw anfantais o fod wedi gwasanaethu ac mewn rhai achosion, ei bod yn briodol rhoi ystyriaeth arbennig i’r rhai a roddodd y mwyaf e.e. y rhai a anafwyd. Mae llawer o sefydliadau’n dewis llofnodi’r Cyfamod i ddangos eu cefnogaeth i’r cymunedau Lluoedd Arfog ac mae rhai’n cymryd y cam pellach o ymuno â Chynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn.
Bydd y sesiwn yma yn rhoi gwybodaeth am y Cyfamod Lluoedd Arfog ac anghenion llety cyn-filwyr, gan roi sylw i gynlluniau tebyg i brosiectau a ffrydiau cyllid, yn ogystal â chyflwyno darpar bartneriaid o’r trydydd sector i aelodau CHC.