Gwylio’r Gorwel ar gyfer Arweinwyr: Beth ddylai cymdeithasau tai roi blaenoriaeth iddo yn y 12 mis nesaf?
Mae uwch arweinwyr ar draws y sector tai yn wynebu pwysau di-baid: deddfwriaeth newydd, mwy o reoleiddio, adnoddau tynnach a risg gweithredol cynyddol. Nid dim ond deall beth sy’n newid yw’r her erbyn hyn – ond gwybod lle i ganolbwyntio amser, buddsoddiad a sylw arweinwyr.
Caiff y sesiwn 90 munud hwn, a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer Aelodau Bwrdd, Prif Weithredwyr, Cyfarwyddwyr Gweithredol a Phenaethiaid Gwasanaeth, ei chyflwyno gan gyfreithwyr sy’n arbenigo ar dai cymdeithasol o Hugh James.
Bydd yn helpu gwneuthurwyr penderfyniadau prysur i dorri drwy’r sŵn a sicrhau eglurdeb ar:
- Y materion sydd angen sylw ar unwaith gan fyrddau a gweithredwyr
- Yr hyn y gallwn ei ohirio yn realistig am nawr
- Lle dylai perchnogaeth sefydliadol fod yn fewnol
- Pa dimau sydd angen cynyddu eu sgiliau, adnoddau neu gymorth llywodraethiant ychwanegol
- Y cwestiynau hollbwysig y dylai arweinwyr fod yn gofyn i’w timau nawr
Bydd y pynciau yn cynnwys:
- Diogelwch adeiladau a’r esblygiad yn nhirlun deddfwriaethol Cymru
- Datblygu, caffael a risg llywodraethiant
- Deallusrwydd artiffisial, risg seiber, toriadau data a bod yn agored i gyfreitha
- Ystyriaethau rheoleiddiol a llywodraethiant ar gyfer byrddau
- Cyfraith Awaab a goblygiadau diwygio rhentwyr
- Datblygiadau cyfraith cyflogaeth a risg gweithlu
- Rheoli asedau, SATC a blaenoriaethau profiad preswylwyr