Jump to content

Cyfres Cartrefi ar gyfer Iechyd a Llesiant: Fforddiadwyedd

Medi 26, 2023 @ 12:00yh

Gall cartrefi pobl gael effaith sylweddol ar eu hiechyd a’u llesiant. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi cyfres o friffiadau sy’n anelu i amlinellu sut olwg sydd ar ‘da’ ar gyfer cartrefi iach yng Nghymru a chamau ar sut i gyflawni’r weledigaeth honno. Caiff diben a chynlluniau ar gyfer y gyfres eu hamlinellu yn y crynodeb yma.

Mae’r briffiad cyntaf yn y gyfres yn canolbwyntio ar bwysigrwydd tai fforddiadwy ar gyfer iechyd a llesiant. Mae hyn yn neilltuol o berthnasol yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw presennol.

Nod y briffiad fydd crynhoi’r cysylltiadau rhwng fforddiadwyedd tai ac iechyd a rhannu enghreifftiau o sut olwg sydd ar ‘da’ i alluogi cynnydd tuag at ddyfodol lle mae cartrefi fforddiadwy yn helpu i ddiogelu iechyd a llesiant pobl yng Nghymru.

Yn y sesiwn sbotolau yma cewch gyfle i rannu eich adborth ar y dystiolaeth a gyflwynir yn y briffiad cartrefi fforddiadwy ac unrhyw enghreifftiau o arfer nodedig neu dda y gellid eu cynnwys.