Jump to content

Iechyd a thai: Cysylltu tystiolaeth, polisi ac ymarfer

Rhagfyr 4, 2023 @ 1:00yh

Dangosodd canllawiau arfer da diweddar ar iechyd a thai y diffyg cydgordio rhwng tystiolaeth, polisi ac ymarfer yng nghyswllt effaith tai ar bob agwedd o iechyd yng Nghymru. Mae hefyd brinder tystiolaeth empirig yn ymchwilio effaith tai ar iechyd meddwl a llesiant. I drin y materion hyn, sefydlodd Prifysgol De Cymru grŵp ymchwil yn ddiweddar gyda’i ffocws ar ddeall effaith tai ar iechyd, gyda nod ddechreuol o osod meysydd ymchwil blaenoriaeth trosfwaol mewn cysylltiad â gwahanol randdeiliaid ar draws Cymru, yn cynnwys cymdeithasau tai, byrddau iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn y sesiwn sbotolau yma bydd Dr Dan Bowers, Pennaeth Seicoleg Prifysgol De Cymru, yn rhannu deilliannau’r broses hyd yma ac yn amlinellu beth fydd yn digwydd nesaf.