Jump to content

O Loches i Lety: Canllawiau Ymarferol ar gyfer Cymdeithasau Tai

Ebrill 21, 2026 @ 2:00yh
Pris Aelod

Rhydd

Wedi'i redeg gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru, bydd y sesiwn yma yn rhoi trosolwg o system loches y Deyrnas Unedig a’i goblygiadau ar gyfer mynediad i dai a hawliau.

Bydd swyddogion tai yn aml yn dod i gysylltiad ag unigolion gydag amrywiaeth o fathau statws mewnfudo, yn cynnwys pobl yn ceisio lloches, y rhai a gafodd statws ffoadur ac unigolion gyda hawliau mwy cymhleth. Er y bydd llawer yn gyfarwydd gyda’r eirfa allweddol, gall fod ansicrwydd am sut mae hyn yn trosi yn gymhwyster am gartref ac ymatebion priodol mewn ymarfer.

Bydd y sesiwn yma yn amlinellu cyfnodau allweddol y broses lloches ac yn egluro’r hawliau tai yn gysylltiedig gyda gwahanol fathau o statws. Bydd hefyd yn ymchwilio sefyllfaoedd cyffredin sy’n wynebu darparwyr tai, gyda ffocws ar gefnogi gwneud penderfyniadau gwybodus a chyson.

Rhoddir pwyslais neilltuol ar y pontio o lety lloches, gan amlygu’r heriau sy’n gysylltiedig gyda’r cyfnod symud ymlaen a risgiau posibl digartrefedd.