Jump to content

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn rheoli asedau

Hydref 10, 2023 @ 11:00yb

Mae digwyddiadau’n ymwneud â lleithder a llwydni ac argymhellion yr Adolygiad Gwell Tai Cymdeithasol wedi dangos canlyniadau trychinebus methiannau system a phwysigrwydd cyflwyno gwasanaethau nad ydynt yn gwahaniaethu. Bydd y sesiwn sbotolau yma gyda Alicja Zalesinska o Tai Pawb yn ymchwilio sut y gallwch gymryd ymagwedd ragweithiol at arferion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn eich gwasanaethau rheoli asedau.

Bydd y sesiwn yn rhoi sylw i:

  • Ystyriaethau allweddol wrth adolygu eich gwasanaethau rheoli asedau
  • Pryd a sut i ddefnyddio Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb
  • Adnabod a thrin anghydraddoldeb strwythurol
  • Ymwreiddio diwylliant o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • Monitro effaith