Jump to content

Datblygu Caeau Pel-Droed Cymunedol

Tachwedd 4, 2025 @ 11:00yb
Pris Aelod

Rhydd

Sefydliad Pêl-droed Cymru yw adran elusennol Cymdeithas Pêl-droed Cymru, a’u rôl unigryw yw buddsoddi a datblygu cyfleusterau pêl-droed sy’n gwella iechyd, hyrwyddo cynhwysiant a chryfhau cymunedau. Mae gan y Sefydliad darged uchelgeisiol o safle pêl-droed safon uchel o fewn 15 munud o bob cymuned yng Nghymru, gan roi blaenoriaeth i’r rhai sydd fwyaf ei angen.

I gyflawni’r weledigaeth hon mae’r Sefydliad eisiau gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i sefydlu cyfleusterau o fewn cymunedau sydd â mynediad cyfyngedig i ofodau pêl-droed sy’n ysbrydoli. Yn benodol, maent eisiau gweithio’n agosach gyda’r sector Tai fel rhan o raglen neilltuol o fuddsoddiad i ddatblygu ‘Cyrtiau Cymru’ – lleiniau artiffisial ochr fach wedi’u brandio mewn cymunedau trefol sy’n galluogi mwy o bobl i chwarae a chryfhau cysylltiadau cymunedol. Gellir datblygu’r cyfleusterau hyn naill ai fel rhan o ddatblygiadau tai yn y dyfodol neu ailwampio cyfleusterau presennol a all fod mewn cyflwr gwael ar hyn o bryd.

Edrychant ymlaen at rannu mwy o fanylion gyda chi yn ystod y weminar ac at gydweithio gyda chi i sicrhau cyfleusterau gwell ar draws ein cymunedau.