Tai a arweinir gan y gymuned: datgloi cartrefi fforddiadwy, creu cymunedau cryfach
Rhydd
Ar draws Cymru, mae cymunedau yn camu ymlaen gyda chynlluniau uchelgeisiol i greu’r cartrefi maent eu hangen i fyw’n dda. Mae tai a arweinir gan y gymuned yn cynnig ffordd ymarferol i ddod â phobl ynghyd o amgylch datrysiadau a gaiff eu rhannu, gan helpu cymunedau i gyflenwi cartrefi fforddiadwy, cysylltiadau lleol cryfach a lleoedd mwy gwydn.
Gyda Llywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad yn gynyddol yn cydnabod fod tai a arweinir gan y gymuned yn rhan allweddol o gyflenwi’r cartrefi mae Cymru eu hangen, mae cyfle amserol i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig weithio gyda chymunedau a helpu i droi syniadau lleol yn ddatrysiadau real ac ymarferol.
Ymunwch â Cwmpas ar gyfer sesiwn gyflwyno yn ymchwilio beth yw tai a arweinir gan y gymuned, sut y gall helpu i greu cartrefi gweddus a fforddiadwy a sut mae’n rhoi pobl leol wrth galon penderfyniadau am y lleoedd y maent yn byw ynddynt. Byddwch yn clywed am y gwahanol fodelau ar gyfer tai a arweinir gan y gymuned sy’n dod i’r amlwg ar draws Cymru, dysgu o enghreifftiau go iawn a darganfod ffyrdd ymarferol y gall Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig gymryd rhan, o roi cyngor a chefnogaeth hyd at bartneriaethau datblygu a chynhyrchu ar y cyd.
P’un ai ydych yn newydd i’r cysyniad neu’n ystyried sut y gallai ffitio o fewn strategaeth eich sefydliad, bydd y sesiwn yma yn helpu i ddynodi sut y gallwn gydweithio i greu’r cartrefi a’r cymunedau mae pobl eu hangen i ffynnu.