Jump to content

Cydlyniaeth yn dechrau gartref

Mai 19, 2026 @ 11:00yb
Pris Aelod

Rhydd

Mewn blynyddoedd diweddar gwelsom densiynau, casineb ac aflonyddu yn cynyddu – ar-lein ac all-lein. Eto, gwyddom rym cysylltiadau cymdeithasol a rôl hynny wrth atal rhaniadau niweidiol. Eto mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Egwyddorion Cydlyniaeth i helpu sefydliadau ar draws Cymru ac ymwreiddio ffyrdd o weithio sy’n cryfhau cysylltiadau cymdeithasol, meithrin diben cyffredin a chynyddu gwytnwch rhag niwed – yn cynnwys casineb, camwybodaeth a thensiynau cynyddol.

Mae cymdeithasau tai wrth galon ein cymunedau. Drwy gyswllt beunyddiol gyda phreswylwyr, maent mewn lle bron yn unigryw i atal gwagle gwybodaeth, cefnogi sicrwydd a helpu cymunedau i lywio newid. Bydd y sesiwn yn rhoi golwg ar waith polisi cydlyniaeth a chasineb Llywodraeth Cymru ac ymchwilio sut y gall darparwyr tai weithredu’r Egwyddorion Cydlyniaeth i ostwng niwed, cryfhau ymddiriedaeth a chefnogi cymunedau cydlynol.