Jump to content

CCC Gweithdy rheoleiddio rhwydweithiau gwres

Ionawr 8, 2025 @ 1:00yh
Pris Aelod

Rhydd

O 2025 ymlaen caiff pob cynllun gwresogi cymunedol ac ardal (rhwydweithiau gwres) eu rheoleiddio yn unol â chyflenwyr nwy a thrydan, gan gyflwyno ystod eang o ofynion newydd o amgylch perfformiad cynlluniau, data, adroddiadau ariannol a rheoli a gwasanaeth cwsmeriaid.

Mae’r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ) ac Ofgem yn ymgynghori ar hyn o bryd ar elfennau diogelu defnyddwyr y rheoliadau newydd: mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn gweld hyn fel cyfle hollbwysig i sicrhau y caiff llais ein haelodau ei glywed ac i sicrhau fod y rheoliadau yn gweithio i’n sector.

I’n helpu i gasglu eich sylwadau ac ysgrifennu ein hymateb, byddwn yn gweithio gyda Chirpy Heat sy’n arbenigwyr yn y maes polisi hwn. Gan adeiladu ar y weminar Ofgem a gynhaliwyd gennym ar 16 Rhagfyr, rydym yn cynnal gweithdy ar y cyd â Chirpy Heat ddydd Mercher 8 Ionawr rhwng 1-4pm i drafod effaith y rheoliadau ar ein haelodau ac i helpu llunio ein barn ar rai o gwestiynau allweddol yr ymgynghoriad.

Rydym yn awyddus i gynifer o’n haelodau gael eu cynrychioli ag sydd modd; yn ogystal â’ch timau cynaliadwyedd a rheoli asedau, bydd y rheoliadau yn effeithio ar gyfathrebu cwsmeriaid, cyllid, cwynion, newidiadau gwasanaeth, datblygu ... mewn gwirionedd bydd yn cyffwrdd â bron bob agwedd o’ch gwaith. Bydd agenda llawn yn dilyn yn y dyfodol agos, ond gofynnwn i chi gadw’r dyddiad yn eich dyddiaduron a’i rannu gyda chydweithwyr.