Jump to content

Codi pontydd rhwng tai ac iechyd

Awst 31, 2023 @ 11:00yb

Yn y sesiwn sbotolau yma, bydd Dr Gareth Morgan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn rhannu gwaith ei dîm ar brosiect enghreifftiol Bevan – datblygu canllawiau arfer da ar iechyd a thai ar gyfer GIG Cymru.

Mae’r canllawiau yn rhoi fframwaith ymarferol iawn i staff iechyd ei ystyried, a chawsant eu cynllunio i fod yn hyblyg gan roi ystyriaeth i amgylchiadau lleol tra hefyd yn rhoi manteision dull gweithredu cenedleathol.

Bydd Gareth yn rhoi diweddariad i aelodau ar ei waith yn Hywel Dda ac ar draws Cymru, ac yn hwyluso sgwrs am sut y gall cymdeithasau tai gyfrannu at a chefnogi’r arfer da hwn.