Jump to content

Dan Ymosodiad: Efelychu Argyfwng Seiber ar gyfer Arweinwyr Tai

Medi 3, 2026 @ 9:30yb
Event 4 oriau Hugh James Cardiff, 2 Central Square, CF10 1FS
Pris Aelod

Rhydd

Mae ymosodiadau seiber yn fwy na dim ond problem technoleg gwybodaeth erbyn hyn. Maent yn tarfu ar wasanaethau, effeithio ar denantiaid, creu heriau rheoleiddiol ac achosi risgiau sylweddol yn ariannol ac o ran enw da.

Gyda disgwyl i gyflwyniad y Bil Seiberddiogelwch a Seiberwydnwch godi disgwyliadau am barodrwydd a gwytnwch seiber, mae Cartrefi Cymunedol Cymru, Hugh James a PureCyber yn dod ag uwch arweinwyr o bob rhan o’r sector tai ynghyd i ymchwilio sut y gall sefydliadau baratoi ar gyfer, ymateb i a sicrhau adferiad o argyfwng seiber.

Caiff cynrychiolwyr eu cyflwyno i efelychiad o argyfwng seiber, gan godi cwr y llen ar yr heriau sy’n wynebu sefydliadau wrth iddynt ymateb i ddigwyddiad seiber. Bydd y digwyddiad hefyd yn ymchwilio dulliau ymarferol i gryfhau gwytnwch seiber, gan helpu cymdeithasau tai i reoli bygythiadau newydd yn effeithlon ynghyd â thirlun rheoleiddiol sy’n esblygu.

Wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer Prif Weithredwyr, Cyfarwyddwyr Gweithredol, Cyfarwyddwyr Cyllid, swyddogion llywodraethiant, timau cyfathrebu, arweinwyr adnoddau dynol ac Aelodau Bwrdd, bydd y sesiwn yn helpu’r sawl sy’n mynychu i gael dealltwriaeth well o:

  • Cyfrifoldebau arweinyddiaeth yn ystod digwyddiad seiber
  • Goblygiadau cyfreithiol, llywodraethiant a rheoleiddiol toriad
  • Effaith bosibl y Bil Seiberddiogelwch a Seiberwydnwch
  • Camau ymarferol i gryfhau seiberwydnwch sefydliad
  • Gwersi a ddysgwyd o ddigwyddiadau seiber go iawn
  • Sut i baratoi ar gyfer, ymateb i a sicrhau adferiad o argyfwng seiber
Hugh James
Pure Cyber