Diogelwch Seibr a Pharhad Busnes – Ydych chi’n barod?
Gyda sefydliadau troseddol yn buddsoddi’n helaeth iawn mewn targedu sefydliadau trwm o ran data, a yw’ch cymdeithas tai chi yn rhwydd ei dal neu’n gneuen anodd ei hagor?
Yn dilyn y pandemig, gydag ymosodiad seibr yn achosi i systemau fod allan ohoni am 17 diwrnod ar gyfartaledd a hawliadau yswiriant seibr nodweddiadol mewn 7 ffigur, a yw’ch sefydliad chi wedi paratoi fel y dylai? A yw diogeliad seibr cyflawn hyd yn oed yn bosibl (neu’n realistig?) ac os na, sut allwch chi liniaru a rheoli’r bygythiad a hefyd yr effeithiau y gellir eu rhagweld?
Ymunwch â ni i drafod y problemau presennol, rhannu eich profiadau gyda chydweithwyr sector, holi cwestiynau i’n harbenigwyr a chael cyngor da gan arbenigwyr cynlluniau masnachol sy’n gweithio’n genedlaethol gyda chymdeithasau tai i baratoi ar gyfer, ac ymdopi, gyda bygythiadau digidol.