Bwrdd Crwn CHC: Graddio'r economi ôl-osod ac adeiladu
Rhydd
Rhydd
Fel rhan o'n hymgyrch etholiad Senedd, rydym yn cynnull sesiwn bwrdd crwn strategol i symud tu hwnt i ddynodi rhwystrau a dechrau llunio datrysiadau. Ein nod yw paratoi Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar Sgiliau Ôl-osod ac Adeiladu: glasbrint parod i’w weithredu ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru i ddatgloi miloedd o swyddi lleol, diogel a gwyrdd.
Byddwn yn canolbwyntio ar dri “hwylusydd” i drawsnewid sector tai Cymru i fod yn beiriant sylfaenol ar gyfer twf economaidd:
Hyder busnesau bach a chanolig a chynllun hirdymor ar gyfer sgiliau Sut y gall y llywodraeth nesaf roi’r sicrwydd 10-mlynedd sydd ei angen i fusnesau bach a chanolig i symud o “oroesi” i “dyfu”, gan eu galluogi i fuddsoddi mewn staff parhaol a phrentisiaethau?
Cymdeithasau tai fel peiriannau newid Sut y gall cymdeithasau tai ddefnyddio eu grym caffael yn y modd mwyaf effeithlon i hybu cyfleoedd hyfforddi a phrentisiaethau a gweithio ar draws daliadaethau tai i gefnogi mesurau effeithiolrwydd ynni.
Ailfrandio “technoleg werdd” Sut mae ail-leoli adeiladu a chynnal a chadw tai fel llwybr gyrfa technoleg uchel o fri i ddenu’r genhedlaeth nesaf o dalent yng Nghymru.
Gobeithiwn yn fawr y gallwch ymuno â ni am yr hyn sy’n argoeli bod yn sesiwn fuddiol.