Bwrdd crwn CHC: Ailddychmygu'r daith o'r ysbyty i'r cartref
Rhydd
Rhydd
Fel rhan o'n hymgyrch etholiadol Senedd, rydym yn cynnull sesiwn bwrdd crwn rithwir ar ailddychmygu'r daith o'r ysbyty i'r cartref.
Mae’r nod yn syml. Cadw pobl yn iach, annibynnol ac yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag sy’n bosibl. Mae’r realaeth yn fwy cymhleth: system lle’n aml mai “mynd adre yn gyflym” yw’r rhwystr mwyaf i adferiad. Yn y sesiwn bwrdd crwn yma byddwn yn ymchwilio:
Meddwl yn greadigol am sut y medrwn gynyddu i’r eithaf y defnydd o gartrefi newydd a phresennol i ostwng oedi wrth ryddhau o ysbyty drwy gynlluniau camu llawr a chymorth arall.
Atal pobl rhag gorfod dychwelyd i’r ysbyty drwy wasanaethau cymorth yn y cartref ac ailalluogi.
Meithrin ymddiriedaeth a diwylliant sy’n rhoi blaenoriaeth i gael pobl adre ar draws partneriaeth.
Gobeithiwn yn fawr y gallwch ymuno â ni am yr hyn sy’n argoeli bod yn sesiwn fuddiol.