Jump to content

Bwrdd Crwn CHC: Cynllun hirdymor ar gyfer 60,000 o gartrefi fforddiadwy

Mawrth 16, 2026 @ 1:30yh
Event 2 hours Online
Pris Aelod

Rhydd

Pris heb fod yn Aelod

Rhydd

Fel rhan o'n hymgyrch etholiad y Senedd, rydym yn cynnull bwrdd crwn rhithwir ar ein cynllun beiddgar ar gyfer 60,000 o gartrefi fforddiadwy dros 10 mlynedd.

Mae mwy o sŵn o amgylch yr argyfwng tai nag a fu erioed – ond mae’r ffenestr am ddylanwad go iawn yn gul.

Rydym yn gwneud mwy na dim ond siarad am y broblem; rydym yn llunio’r datrysiad. Byddwn yn canolbwyntio ar:

  • Cynllun gweithredu 100 diwrnod: Gosod y rhestr blaenoriaethau ar gyfer y weinyddiaeth newydd.

  • Datgloi capasiti: Pa newidiadau penodol fydd yn osgoi’r rhwystrau presennol?

  • Cynnull tir: Sut fedrai Corfforaeth Ddatblygu Genedlaethol arwain adfywio graddfa-fawr a chynnull tir yn effeithlon?

Ymunwch â ni i sicrhau y caiff strategaeth tai y llywodraeth nesaf ei hadeiladu ar farn y rhai sydd yn cyflenwi.

Gobeithiwn yn fawr y gallwch ymuno â ni ar gyfer yr hyn sydd yn argoeli bod yn sesiwn fuddiol.