Jump to content

Parhad Busnes – Pam ei fod yn bwysig a sut i’w weithredu

Hydref 26, 2023 @ 9:30yb
Event 1.5hrs Online

Yn rhy aml, caiff Parhad Busnes ei drin fel baich ychwanegol ar gyfarwyddwyr neu benaethiaid adran, gan arwain at gynlluniau a pholisïau nad yw staff ehangach a rhanddeiliaid y sefydliad yn gwybod na’n deall fawr amdanynt.

Nid yw’n anarferol canfod achosion lle mai unig nod y Cynllun Parhad Busnes yw bodloni gwiriad gan y rheoleiddiwr neu archwilydd.

Fodd bynnag, gall proses gadarn i reoli Parhad Busnes fod yn rym llesol mewn unrhyw sefydliad. Gellir sicrhau gwir Gydnerthedd Busnes os caiff ei weithredu gyda nodau syml a phragmatig a’i weithredu dros gyfnod cyson mewn ffordd sy’n ymgysylltu â staff ac yn eu cynnwys.

Yn y sesiwn yma bydd Commercial Initiatives Cyf., a fu’n gweithio gydag amrywiaeth eang o sectorau am dros 20 mlynedd ac sydd ag arbenigedd penodol a dwfn yn y sector tai, yn rhannu eu profiad o gynllunio, ysgrifennu, gweithredu a pharhau Cynlluniau Parhad Busnes sy’n syml ac yn effeithiol o ran cost ac yn helpu i feithrin hyder a brwdfrydedd staff.