Jump to content

Un Gynhadledd Fawr 2026: Grym partneriaethau – O weledigaeth i gyflawni

Gorffennaf 2, 2026 @ 8:45yb
Cynadleddau The Metropole Hotel and Spa, Temple Street, Llandrindod Wells, Powys, LD1 5DY.
Pris Aelod
From

£368

Pris heb fod yn Aelod
From

£483

Bydd yr Etholiadau i’r Senedd yn gosod gorwelion newydd ar gyfer Cymru ac fel sector byddwn yn sefyll ar drothwy pennod hanfodol.

Mae gennym ran allweddol wrth roi diwedd ar yr argyfwng tai ond ni allwn ei wneud ar ein pen ein hunain. Mae ein gwir nerth mewn cydweithio.

Mae ein huchelgais yn glir: mwy o gartrefi, gwell cartrefi a lleoedd tecach. Ond gwyddom y bydd y pedair blynedd nesaf yn galw am ymroddiad, cydweithio a gwytnwch wrth i ni symud o weledigaeth lefel uchel i weithredu ymarferol

Yn yr Un Gynhadledd Fawr eleni byddwn yn dathlu’r partneriaethau grymus sydd eisoes yn bodoli ar draws y sector ac ymchwilio’r cyfleoedd a gaiff eu creu gan gydweithio blaengar a phartneriaethau dwfn i sicrhau mai’r waddol a rannwn yw Cymru lle mae cartrefi ar gyfer pob dyfodol.

Rhaglen Drafft

DIWRNOD 1 - Dydd Iau 2 Gorffennaf


8.45am Cofrestru, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa

9.40am Cyflwyniad i Ddiwrnod 1 – Croeso gan y Cadeirydd

9.50am Prif Araith | Mandad Newydd i Gymru: Y tirlun yn dilyn yr etholiad

Cafodd y pleidleisiau eu cyfrif ac mae’r Senedd newydd yn cwrdd. Wrth i’r llwch gwleidyddol setlo yng Nghymru, bydd y brif araith agoriadol yn rhoi briffiad lefel uchel ar weledigaeth y llywodraeth newydd ar gyfer Cymru. Bydd yn ymchwilio blaenoriaethau cyntaf y weinyddiaeth newydd ac yn rhoi trosolwg o’r tirlun gwleidyddol, gan ddynodi’r themâu allweddol fydd yn diffinio pedair blynedd nesaf polisi tai Cymru.

10.20am Panel: Glasbrint cyflenwi

Nawr ein bod wedi mapio’r tirlun gwleidyddol newydd yn ein prif araith agoriadol, mae’r sesiwn yma yn gwyro o’r hyn mae’r llywodraeth newydd ei eisiau i sut y byddwn yn cyflenwi hynny. Bydd ein panel arbenigol yn gwahanu uchelgeisiau lefel uchel y Senedd yn fap trywydd ymarferol ar gyfer y sector. Symudwn tu hwnt i addewidion y maniffesto i drafod ystyriaethau ymarferol cyflenwi mewn datblygu, rheoli asedau a gwasanaethau tai. Bydd ein panelwyr yn trafod y cydweithio sydd ei angen i gyrraedd targedau lefel uchel mewn hinsawdd economaidd a gwleidyddol sy’n newid, gan edrych yn onest ar sut y gallwn alinio ein strategaethau fel sefydliad gyda’r agenda cenedlaethol newydd tra’n parhau i ddarparu cartrefi safon uchel ar gyfer pobl Cymru.

  • Paul Bradley, SFHA
  • Auriol Miller, Cynon Taf Community Housing Group
  • CHC

11am Egwyl Coffi/Gweld yr Arddangosfa/Rhwydweithio
 

12pm Gweithdai

1) Datgloi’r Bwlch

2) Cartrefi cynnes, nodau cyffredin 
 

3) Gwneud i bartneriaethau iechyd weithio

Yn 2026, y ‘presgripsiwn’ mwyaf effeithiol ar gyfer Cymru iachach yw cartref o safon uchel. Er bod y weledigaeth yn glir, mae ei gweithredu’n gofyn am newid yn ein hoffer bob dydd. Mae’r sesiwn hon yn archwilio sut i fanteisio ar strwythurau presennol y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) a graddio’r genhadaeth 'Ysbyty i Gartref'. Ymunwch â ni i drosglwyddo i realiti lle caiff tai eu cydnabod a’u hariannu fel ymyriad iechyd cyhoeddus hanfodol. 

  • Beth Underwood, Cwn Taf Morgannwg University Health Board
  • Sam Austin, Vale of Glamorgan Regional Partnership Board
  • I'w gadarnhau

4) Gwybodaeth am Asedau dan Arweiniad Preswylwyr

Mae’r dull traddodiadol o reoli asedau yn gynyddol annigonol mewn tirlun o safonau diogelwch uwch a thrawsnewid digidol. Bydd y sesiwn yma yn trafod y pontio o gylchoedd atgyweirio ymatebol i ymyriadau rhagweithiol a alluogir gan ddata. Drwy ysgogi dolenni adborth preswylwyr, ynghyd â data perfformiad adeilad mewn amser real, gall sefydliadau fanteisio i’r eithaf ar ddyrannu adnoddau, lliniaru risgiau systemig tebyg i leithder a llwydni a sicrhau fod pob punt o wariant yn cyflenwi’r gwerth uchaf oll i’r gymuned.

  • Henrik von Bahr, Plentific
  • I'w gadarnhau
     

12.45pm Cinio/Rhwydweithio/Gweld yr Arddangosfa

13.55pm Prif Araith | Y Cysylltydd Mawr: Tai fel y Sylfaen ar gyfer Cymru Iachach

14.35pm Gweithdai

1) Mynd i’r afael â rhwystrau i adeiladu mwy o gartrefi: ble nesaf?

Gwnaed llawer o waith mewn blynyddoedd diweddar i ddynodi’r rhwystrau parhaus i gyflenwi tai cymdeithasol a’r cyfleoedd i gynyddu cyflymder a maint. Gan adeiladu ar waith ac argymhellion diweddar y Tasglu Tai Fforddiadwy, bydd y sesiwn yma’n ymchwilio cynlluniau’r llywodraeth i fynd i’r afael â’r rhwystrau mwyaf ystyfnig sy’n wynebu’r sector ac yn ymchwilio sut i fynd ymhellach i hwyluso cyflenwi.

  • Helga Warren a Stuart Fitzgerald, Llywodraeth Cymru
     

2) Caredig: Ymwreiddio Caredigrwydd drwy Fframwaith Ystyriol o TrACE

Mae’r sesiwn yma’n ymchwilio taith Caredig mewn ymwreiddio fframwaith ystyriol o Trawma ac ACE (profiadau niweidiol yn ystod plentyndod) fel piler strategol creiddiol. Byddwn yn edrych sut mae mandad ‘Caredigrwydd’, a gefnogir gan Fodel Seicolegol 360, wedi trawsnewid eu dull gweithredu.
 

3) Gwell canlyniadau ar gyfer pympiau gwres mewn tai cymdeithasol: Profiad Bryste

Mae cefnogi tenantiaid wrth bontio i wresogi carbon isel yn golygu gwneud yn siŵr fod eu profiad yn un cadarnhaol. Sut fedrwn ni sicrhau fod tenantiaid yn ymgysylltu gyda phroses datgarboneiddio ac yn fodlon gyda’r canlyniadau ac y caiff asedau eu rheoli’n effeithiol?

Bu Nesta a Chyngor Dinas Bryste yn gweithio mewn partneriaeth i ddeall a gwella perfformiad pympiau gwres yn stoc tai Bryste. Mae eu gwaith blaengar ar asesu gosodiadau presennol a’u gwella, yn ogystal â chyfweliadau ar gyfer tenantiaid bob cam o’r ffordd, wedi rhoi canfyddiadau pell-gyrhaeddol.

Dewch i glywed mwy am sut mae’r dysgu byd go iawn wedi arwain at ddirnadaeth ymarferol sy’n llywio gwell ymarfer gosod, ymgysylltu â phreswylwyr a dylunio polisi ar draws y Deyrnas Unedig.

  • Elin Price, Nesta

4) The Cascade: Arloesi gyda Phren mewn Adeiladau Uchel

Mae The Cascade yn nodi newid tirnod ym mhensaernïaeth Cymru, gan herio ffiniau datblygiad trefol cynaliadwy. Ymunwch â’r tîm tu ôl i’r prosiect i fynd ‘dan groen’ The Cascade, gan edrych yn agos ar y beirianneg soffistigedig a’r strategaethau caffael ar y cyd sydd wedi llwyddo i sicrhau enghraifft yn arwain y byd o ran tai cymdeithasol dwysedd uchel a charbon isel.

  • Grant Prosser, Codi Group

15.20pm Egwyl Coffi/Gweld yr Arddangosfa/Rhwydweithio

15.50pm Panel | Cartrefi da i bawb: beth fydd ei angen mewn gwirionedd?

Beth mae “cartref da” yn ei olygu mewn gwirionedd yn 2026 a pham mai dyma’r allwedd i ddatgloi iechyd economaidd a chorfforol Cymru? Mae’r panel yn gofyn y cwestiynau anodd: Sut y gall strategaeth traws-lywodraeth weithio mewn gwirionedd? Sut olwg sydd ar iechyd a chyfoeth pan y cawsant eu hadeiladu i ffabrig ein cartrefi? Byddwn yn symud tu hwnt i’r “beth” i ganolbwyntio ar y “sut”, gan ymchwilio’r modelau cydweithio sydd eisoes yno a’r rhwystrau y mae’n dal angen eu chwalu. Dewch i ddarganfod beth mae’n ei gymryd mewn gwirionedd i arwain ymgyrch unedig ar gyfer cartrefi gwell, iechyd gwell a Chymru fwy gwydn.

  • Clare Way, Tai Tarian
  • Caroline O'Flaherty, Hugh James
  • I'w gadarnhau

16.20pm Diwedd Diwrnod 1 – Sylwadau’r Cadeirydd

17.00pm Derbyniad diodydd

19.00pm Cinio

20.30pm Adloniant min nos

 

DIWRNOD 2 - Dydd Gwener 3 Gorffennaf
 

8.00am Gweithgaredd llesiant

8.45am Cofrestru, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa

9.40am Cyflwyniad i Ddiwrnod 2 – Croeso y Cadeirydd

9.50am Prif Araith | Llunio dyfodol y gweithlu tai

10.20am Panel | Sut mae adeiladu’r gweithlu rydym ei angen i gyflenwi y blaenoriaethau a rannwn?

Ni ellir ennill chwyldro sgiliau 2026 gan gymdeithasau tai sy’n gweithredu ar eu pen eu hunain. Sut gallwn ni ddefnyddio ein grym cyfunol yng Nghymru i greu gweithlu adeiladu sefydlog a chydnerth? Rydym yn dod ag arweinwyr o feysydd datblygu, addysg, a’r rheng flaen at ei gilydd i drafod creu hybiau sgiliau rhanbarthol a’r newid i ddiwylliant adeiladu digidol yn gyntaf. 

11am Egwyl coffi, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa

12pm Gweithdai

1) Deddfwriaeth newydd ar ddigartrefedd yng Nghymru: dysgu o arfer gorau

Bydd y sesiwn yma yn ystyried sut y gall cymdeithasau tai ddysgu a chynyddu arfer gorau ar weithio partneriaeth i wneud y ddeddfwriaeth newydd ar ddigartrefedd yn llwyddiant.

  • Neil Morland

2) Tai Dan Arweiniad y Gymuned

3) Parth Briffio: Cyflenwi’r system diogelwch tân newydd

4) Gwella cartrefi a chymunedau: Gwersi o’r Iseldiroedd

  • Elly Lock, Cartrefi Cymunedol Cymru

12.50pm Prif Araith | Gorau Chwarae Cyd-chwarae: Grym Blaengar Partneriaeth

1.20pm Diwedd Diwrnod 2 – Sylwadau’r Cadeirydd

1.30pm Cau’r Gynhadledd a chinio bwyd i fynd
 

Llety

Rydym wedi cadw ystafelloedd yn y Metropole ar gyfer cynrychiolwyr y gynhadledd. I archebu ystafell, ffoniwch y Metropole yn uniongyrchol ar 01597 823700 a gadael iddynt wybod eich bod yn archebu ar gyfer yr Un Gynhadledd Fawr. 

Byddwch yn talu drwy’r Metropole a nhw fydd yn trin eich archeb.

Os nad oes lle yn y Metropole neu yr hoffech aros mewn man arall, mae’r opsiynau canlynol ar gael

Cwmnïau tacsi lleol os ydych yn aros ymhellach allan:

George’s Taxi – 07498729724
Adeys Taxi – 01597822188

Mae’r ddau uchod yn argymhellion lleol.